Newyddion Sir Gaerfyrddin

Newyddion Sir Gaerfyrddin

gan Mary Parry, Swyddog Cyswllt Gwella Ysgolion (ASIO)

Addysg grefyddol mewn ysgolion uwchradd

Cymedroli allanol CA3 sylwadau

Am nifer o flynyddoedd cyn mis Mawrth 2012, roedd cyfarfodydd penaethiaid adran addysg grefyddol yn Sir Gaerfyrddin yn cynnwys gwaith ar y cyd ar ddeall disgrifyddion lefel genedlaethol addysg grefyddol, gosod tasgau i alluogi disgyblion ddangos eu gallu yn erbyn y disgwyliadau hyn ac edrych ar enghreifftiau o waith disgyblion er mwyn dod i gytundeb cyffredinol ar safonau. Yna roedd yr adrannau’n gallu rhoi eu portffolios at ei gilydd i’w cyflwyno i CBAC.

Roedd adroddiadau’r cymedrolwyr allanol ym mis Gorffennaf 2012 yn canmol y modd y cyflwynwyd portffolios adrannau addysg grefyddol Sir Gaerfyrddin, yn cynnwys sylwadau fel ‘cryfderau rhagorol yn y modd mae’r dystiolaeth wedi ei chywain, gydag amrywiaeth dda o dasgau a gweithgareddau, anodi a chroes gyfeirio clir, sylwebaeth defnyddiol a chryno gan athrawon’. Roedd y  cymedrolwyr yn cytuno’n llwyr gyda 50% o’r portffolios hyn ar bob lefel.  O ran y portffolios eraill, lle roedd materion yn codi mewn un neu fwy o lefelau, roedd ASIO y sir dros addysg grefyddol wedi cadarnhau bod yr adrannau’n deall y lefelau a bod angen mân ychwanegiadau at y portffolios i’w galluogi i esbonio’r disgrifyddion lefelau yn llawn. Mae’r portffolios llwyddiannus wedi cael eu sganio a’u rhoi ar wefan addysg grefyddol  Sir Gaerfyrddin fel enghreifftiau o arfer da.

Ar y cyfan, mae penaethiaid adrannau’n teimlo bod y broses wedi gwneud iddynt ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau addysg grefyddol disgyblion a gosod tasgau heriol iddynt. Ond maent yn teimlo bod y  lefelau’n eu cyfyngu braidd, yn disgwyl i ddisgyblion wneud pethau ychwanegol yn hytrach na’u hannog i gymryd rhan, archwilio a mynegi. Yn hyn o beth, maent yn teimlo bod y broses yn artiffisial, yn ogystal â bod yn  drafferthus, er gwaethaf sicrwydd na fyddai angen unrhyw waith ychwanegol. Maent hefyd yn cwestiynu’r parhad a’r dilyniant rhwng disgwyliadau lefelau CA3 a gofynion maes llafur TGAU astudiaethau crefyddol.

Addysg grefyddol a llythrennedd ar draws y cwricwlwm

Eleni, mae adrannau addysg grefyddol wedi bod yn canolbwyntio ar ddatblygu llythrennedd mewn addysg grefyddol yn unol â’r flaenoriaeth genedlaethol. Mae penaethiaid yr holl adrannau addysg grefyddol o’r farn y gall addysg grefyddol gyfrannu’n helaeth at ddatblygu sgiliau llafar, darllen ac ysgrifennu disgyblion, ac i’r gwrthwyneb, gall meddu ar y sgiliau hyn helpu disgyblion ddatblygu eu sgiliau addysg grefyddol. Rydym wedi ystyried agweddau fel tasgau ysgrifenedig mewn addysg grefyddol i ddatblygu dibenion pob un o’r chwe thestun ffeithiol (adrodd, cyfarwyddo, rhoi gwybodaeth, esbonio, argyhoeddi a thrafod).

Rydym yn y broses o ystyried gwahanol strategaethau i ddatblygu sgiliau darllen disgyblion (e.e. sgimio, sganio, darllen agos, rhagfynegi, dad-ddynodi geiriau unigol) i’w galluogi i ddethol gwybodaeth ddefnyddiol o werslyfrau, ysgrifau sanctaidd, deunyddiau rhyngrwyd, papurau newydd ac erthyglau mewn cylchgronau. Rydym yn awyddus i ddatblygu sgiliau darllen uwch fel tybio, amcangyfrif, dehongli, darganfod tuedd a gwerthuso dibynadwyedd ffynonellau.

Er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd addysg grefyddol o ran datblygu sgiliau darllen disgyblion, mae ASIO addysg grefyddol y sir wedi llunio profion darllen enghreifftiol addysg grefyddol yn yr un fformat yn union â deunyddiau darllen enghreifftiol y Fframwaith Llythrennedd Cenedlaethol, ac mae’r rhain yn cael eu defnyddio mewn gwersi addysg grefyddol ar hyn o bryd.

 

Enghraifft o addysg grefyddol mewn ysgolion cynradd

Yn ystod y tymor hwn, mae disgyblion Ysgol Gynradd Ffairfach wedi bod yn astudio Islam gyda’u pennaeth, Miss Meinir Morgan. Fel rhan o’u hymchwiliadau, buont yn ymweld â mosg a Chanolfan Gymunedol Yemeni yng Nghaerdydd, lle cawsant gyfle i edrych o amgylch yr adeilad a siarad â’r imam a gofyn cwestiynau iddo. Buont hefyd yn defnyddio gwefan addysg grefyddol y sir i ddod o hyd i wybodaeth (http://credo.ysgolccc.org.uk). Mae’r ymchwiliadau hyn wedi helpu’r disgyblion ddatblygu eu sgiliau addysg grefyddol.

Dywedodd rhai disgyblion mai’r Adhan oedd y peth mwyaf diddorol iddynt ei ddysgu, sef y galwad i addoli. Maent yn gallu disgrifio ac egluro sut caiff ei ddefnyddio, ac yn gallu gweld cysylltiadau rhyngddo a chlychau eglwys yn canu cyn gwasanaethau Cristnogol. Cawsant hefyd eu plesio’n fawr gan ymrwymiad Mwslimiaid wrth weddïo pum gwaith y diwrnod, a deall sut mae hyn yn effeithio ar fywyd Mwslim, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf yng Nghymru, wrth iddynt orfod codi’n gynnar iawn erbyn gweddïau’r bore.

Ffairfach-3-13-_-Mary-parry---caerfyrddin

Cangen CYSAG Sir Gaerfyrddin

Data arholiadau allanol

Mae cangen CYSAG Sir Gaerfyrddin yn parhau i gyfarfod pob tymor i drafod materion yn ymwneud ag addysg grefyddol ac addoli ar y cyd yn ysgolion y sir. Yn ystod y cyfarfod diwethaf, dadansoddodd yr aelodau ganlyniadau arholiadau allanol astudiaethau crefyddol (cwrs llawn a chwrs byr TGAU, lefelau UG ac A), gan ddefnyddio gwerth data ychwanegol y Fischer Family Trust am y tro cyntaf. Rhoddodd ASIO addysg grefyddol y sir esboniad am y gwahanol ddata sydd ar gael, e.e.

  • data crai
  • data sylfaenol am werth a ychwanegwyd, e.e. o CA2 i CA4 ac o CA3 i CA4, sy’n cymryd i ystyriaeth gyrhaeddiad blaenorol, rhyw a mis geni;
  • gwerth ychwanegol cyd-destunol, sy’n cymryd i ystyriaeth hefyd gyd-destun yr ysgol a disgyblion unigol, e.e. amddifadedd, prydau ysgol am ddim, ethnigrwydd.

Dangosodd Mrs Mary Parry sut gellid defnyddio hyn i ddadansoddi cyrhaeddiad disgyblion mewn astudiaethau crefyddol. Ond pwysleisiodd nad yw’r data ei hun yn rhoi’r darlun cyflawn; mae angen ei ddefnyddio ar y cyd â gwybodaeth arall i gael darlun clir o safonau addysg grefyddol mewn ysgolion, er bod y data hwn yn ddefnyddiol iawn i ddilyn cynnydd disgyblion a chymharu cyrhaeddiad disgyblion â disgyblion tebyg ledled Cymru.

Ysgoloriaeth Gweithgor Bedyddwyr Gogledd Myrddin

Cafodd aelodau eu calonogi’n fawr pan roddodd y Parch John Talfryn Jones, cadeirydd CYSAG Sir Gaerfyrddin, wybodaeth iddynt am ysgoloriaethau addysg grefyddol gwerth £1,500 sy’n cael eu dyfarnu’n flynyddol gan Weithgor Bedyddwyr Gogledd Myrddin (Gweithgor Eglwysi Bedyddwyr Gogledd Sir Gaerfyrddin). Dywedodd y Parch John Talfryn Jones, sy’n weinidog gyda’r Bedyddwyr yn yr ardal, y dyfernir £300 i fyfyriwr addysg grefyddol mwyaf addawol pob un o’r pum ysgol uwchradd yng ngogledd Sir Gaerfyrddin, sef Tre-gib, Pantycelyn, Maes yr Yrfa, Y Gwendraeth a Dyffryn Aman.  Dywedodd Mrs Christine Rees, Pennaeth addysg grefyddol  yn Ysgol Dyffryn Aman ac aelod CYSAG, fod yr ysgoloriaeth hon yn helpu i godi statws addysg grefyddol yn yr ysgol ac yn gymhelliad i ddisgyblion weithio’n galed yn y pwnc. Ychwanegodd bod yr ysgoloriaeth yn cael ei ddyfarnu fel arfer i ddisgybl chweched dosbarth sy’n bwriadu parhau ag agweddau ar astudiaethau crefyddol mewn Addysg Uwch.