A yw pobl ‘hŷn’ yn fwy crefyddol na phobl ‘iau’?

Rwy’n credu mai newidiadau sy’n creu’r cysyniadau am oedran. Gall newidiadau bach neu newidiadau amlwg mewn unigolyn fod yn gysylltiedig rywsut â’r oedran. Felly gall crefydd fod yn gysylltiedig ag oedran, am fod cyfnod penodol ym mywyd unigolyn fel arfer yn nodi lefel benodol o bwysigrwydd crefyddol o ganlyniad i nodweddion ystrydebol eraill unigolyn o’r oedran hwnnw. Er enghraifft, mae’n gred gyffredin bod pobl hŷn ‘ar gael’ fwy i gymryd rhan mewn gweithgareddau eglwys oherwydd bod ganddynt fwy o amser. Boed hynny fel y bo, mae gan y sylw fod pobl hŷn yn tueddu i fod yn fwy crefyddol na phobl iau ddiffygion cynhenid ​​oherwydd bod y geiriau ‘hŷn’ ac ‘iau’ yn eiriau cymharol. Felly gellir ond tybio bod hŷn yn golygu ‘hen’, ond hyd yn oed wedyn mae anghysondebau am yr hyn sy’n dynodi ‘hen’. Yn yr un modd, mae dryswch hefyd ynghylch y cymal ‘mwy crefyddol’ neu grefyddoldeb unigolyn. Oes gan y term amwys hwn, sy’n ymwneud ag ymrwymiad i grefydd, unrhyw nodweddion canfyddadwy? Wrth fesur crefyddoldeb, a ydym yn graddio pobl yn ôl eu credoau neu weithredoedd crefyddol? Ond ni ddylai’r amwysedd dan sylw atal ymchwiliad i’r berthynas rhwng oed a chrefyddoldeb.

Mae’r angen am grefydd fel cyfrwng cymorth yn rheswm cyffredin a roddir dros ddibyniaeth y genhedlaeth hŷn ar grefydd. Mae yna ymdeimlad nad yw pobl hŷn yn gydnaws â moderniaeth wrth iddynt ymdrechu i ddeall a derbyn newidiadau radical, cronnus a chyfnewidiol mewn cymdeithas. Mae cwmni crefydd yn eu sefyllfaoedd bregus, gan gynnwys sancteiddrwydd gweddi, yn eu cryfhau. Gall llawer o’r cenedlaethau hŷn ymddangos fel petai ganddynt gysylltiad cryfach â chrefydd wrth iddynt gymryd rhan fwy gweithgar mewn crefydd yn y gymuned. Mae hyn o ganlyniad i agwedd mwy aeddfed a phragmatig at fywyd, yn ogystal â diddordeb cynhenid ​​mewn statws cymdeithasol o ran cenedlaethau hŷn, sy’n achosi i lawer o bobl hŷn ystyried bod effaith gweithredoedd da yn fuddiol yn gymdeithasol. Er enghraifft, efallai y bydd pobl hŷn yn cymryd rhan mewn gwasanaethu’r gymuned neu wasanaethu mewn grwpiau elusennol gan feddwl y byddant yn gosod esiampl i’w cymheiriaid iau. Ond mae’n bosib mai boddhad personol yw sail datganiad crefyddol o’r fath. Efallai y bydd y syniad o agosáu at farwolaeth yn cynyddu syniadau ac ofnau am y byd sydd i ddod. Gallai dadansoddiad manwl o’u camweddau arwain at rai unigolion hŷn yn trawsnewid eu bywydau wrth iddynt geisio glanhau eu bywydau o bechod. Mae eu ffocws yn symud oddi wrth chwantau bydol tuag at fodloni’r angen i fyw i wneud eu hunain yn fodlon i gael persbectif cyffredinol ar fywyd. Hyd yn oed os oes ymdeimlad o ansicrwydd yn bodoli, efallai y byddai llawer yn meddwl ei bod yn fwy buddiol i ymrwymo i’w gweithredoedd crefyddol; felly maent yn portreadu delwedd draddodiadol sy’n llym ac yn ystrydebol o grediniwr crefyddol brwd, yn y gobaith y byddant yn osgoi wynebu ‘digofaint’ Duw. O ganlyniad maent yn cydymffurfio â barn Allport am gredinwyr crefyddol yn 1950 wrth iddynt ystyried nodweddion credwr anghynhenid​​, y rhai sy’n ystyried crefydd fel ffordd o gyrraedd y nod. Mae’r seiliau seicolegol hyn am ddibyniaeth grefyddol gryfach mewn pobl hŷn yn cefnogi’r syniad bod pobl hŷn yn tueddu i fod yn fwy crefyddol na phobl iau.

Fodd bynnag, mae’r rhesymeg hon yn rhoi’r argraff bod cynnydd yng nghrefyddoldeb pobl hŷn yn ganlyniad i hwylustod cynyddol crefydd yn eu bywydau; mae bwlch ar ffurf crefydd yn agweddau di-rif ar eu bywydau. Mae elfennau ymarferol ymddeol yn caniatáu mwy o amser i weithgareddau crefyddol, o’u cymharu â’r gwrthdynnu rhwng gwaith a bywyd teuluol yn y blynyddoedd iau, yn arwain at ganfyddiad yn y gymdeithas fod pobl hŷn yn fwy gweithgar yn grefyddol. Serch hynny, gallwn gwestiynu a yw gallu mynd i gyfarfodydd gweddi ac astudiaethau Beiblaidd, er enghraifft, yn arwydd o fod yn fwy crefyddol. Felly rwy’n feirniadol o’r newidiadau cynhenid ​​mewn personoliaeth a phryderon mewn henaint, e.e. aflonyddwch mewn materion ysbrydol fel anfarwoldeb wrth wneud pobl hŷn yn wirioneddol fwy crefyddol, oherwydd eu bod yn ymddangos fel petaent yn defnyddio crefydd er boddhad personol. Awgrymodd Ullman yn 1982 bod llawer o’r rhai sydd wedi troi at grefyddau newydd yn teimlo’n isel neu’n euog a’u bod yn fuan yn dweud eu bod yn teimlo’n ddiogel ac yn sicr yn eu grŵp crefyddol newydd. Er hynny, mae llawer o’r rhai sydd wedi cael tröedigaeth yn gadael ar ôl cyfnod byr. Mae syniad cyffredinol yn bodoli fod crefydd yn ddull cyflym i rai pobl hŷn o godi eu calonnau a bod argyhoeddiad gonest yn cael ei herio o ganlyniad i hynny.

Clywir dadl gref fod pobl hŷn yn tueddu i fod yn fwy crefyddol oherwydd bod eu magwraeth grefyddol wedi dylanwadu’n sylweddol arnynt. Mae canfyddiad bod cenedlaethau hŷn ein cymdeithas heddiw wedi cael eu magu mewn cyfnod pan roedd crefydd yn cael ei werthfawrogi’n fawr, ac o ganlyniad  maent yn parhau i gadw at yr un credoau traddodiadol. Mae’r syniad hwn yn cyd-fynd â’r broses o seciwlareiddio cymdeithas. Yn ôl ymchwil, roedd eglwysi Prydain yn eu hanterth rhwng 1860 a 1910, pan oedd tua 28% o’r boblogaeth yn aelodau. Roedd y nifer cyfatebol yn 1995 yn sylweddol llai, sef 12% yn unig, sy’n dangos effeithiau’r cynnydd mewn seciwlareiddio yn y cyfnod. Mae’r cipolwg hwn ar gyfranogiad crefyddol yn dangos bod gweithgareddau crefyddol yn fwy poblogaidd ac efallai yn debycach i’r hyn a ddisgwyliwyd yn y degawdau diwethaf. Ar ben hynny, yn enwedig ym Mhrydain, ystyriwyd Cristnogaeth fel y grefydd genedlaethol ac roedd yn gymdeithasol ‘gywir’ i ymarfer Cristnogaeth. Gellir honni bod yr arferion a’r foeseg  a ddysgwyd i  blant y diwylliant hwn wedi parhau yng nghredoau crefyddol cenedlaethau hŷn ein cymdeithas heddiw. Cefnogir hyn gan arolwg Kuhlen ac Arnold ym 1944, sy’n adrodd bod mwyafrif oedolion 20-60 oed yn cadw eu ffydd, er eu bod, wrth fynd yn hŷn, yn credu llai mewn nefoedd a bywyd tragwyddol. Er gwaethaf rhai ailasesiadau amheus o dderbyn ffydd yn fetaffisegol, maent wedi cadw ffydd eu plentyndod, sy’n dangos cydberthynas amlwg rhwng oed, o ganlyniad i ddylanwadau plentyndod yn ymwneud â gwahanol gyfnodau, a chrefyddoldeb.

Ond ystyried cenhedlaeth hŷn heddiw’n unig mae’r syniad hwn. Mae’r ddadl yn ei hanfod yn rhagweld, o ganlyniad i seciwlareiddio’r gymdeithas gyfoes, y bydd mwyafrif pobl ifanc heddiw, sy’n rhoi pwyslais ar bethau materol ac yn meddwl yn rhesymegol, yn datblygu i fod yn genhedlaeth hŷn nad yw’n ystyried crefydd yn bwysig oherwydd ei bod yn seilio cred grefyddol yn syml ar fagwraeth sy’n nodweddiadol o gyfnod penodol. Credaf mai gor-gyffredinoli yw hyn oherwydd bod pob plentyn yn cael magwraeth unigryw, hyd yn oed yn yr un cyfnod amser, ac nad yw dysgu crefydd i blentyn yn sicrhau y bydd yn parhau i ddilyn y credoau hynny. Yn wir, mae lle i gredu bod magwraeth plentyn, boed yn fagwraeth gadarnhaol neu negyddol, â mwy o ddylanwad ar p’un a fydd plentyn yn datblygu i fod yn grefyddol ai peidio. Esbonia James Fowler, seicolegydd o’r 20fed ganrif, y bydd plentyndod cynnar, cynnes, sy’n llawn cariad a sicrwydd yn helpu’r plant yn ddiweddarach yn eu bywydau i gael ymdeimlad o ymddiriedaeth a diogelwch am y bydysawd. Ac i’r gwrthwyneb, gall plentyndod o esgeulustod a chamdriniaeth arwain at ddatblygu diffyg ymddiriedaeth yn y dwyfol yn y dyfodol. Gall ffactorau amgylcheddol eraill hefyd, e.e. ysgol, ffrindiau a hyd yn oed profiadau crefyddol, ddylanwadu ar gredoau plentyn. Dengys arolwg Kuhlen ac Arnold yn 1944, cyfnod y byddai llawer o’r genhedlaeth hŷn heddiw wedi eu magu ynddi, ddirywiad mewn cred grefyddol wrth i blant aeddfedu. Er enghraifft, gostyngodd cred yng ngwirionedd llythrennol y Beibl o 79% yn 12 oed i 34% yn 18 oed. Dengys hyn, o bosib, gynnydd mewn meddwl rhesymegol neu ystyriaeth o ddamcaniaethau eraill wrth i bobl fynd yn hŷn. Mae’n adleisio ymchwil Petrovic yn 1988, a adroddodd bod y rhan fwyaf o blant ifanc iawn yn teimlo bod Duw yn agos atynt. Ond gostyngodd y nifer yn gyflym yn y blynyddoedd dilynol a daethpwyd i ystyried Duw yn fwy fel  ‘Duw sy’n anweledig ac ym mhob man’. Mae hyn yn cyfleu gostyngiad mewn cred grefyddol lythrennol a chwestiynu testunau o awdurdod, a oedd yn bresennol hyd yn oed yn 1944, cyfnod pan roedd yn ymddangos bod y Beibl yn cael mwy o barch yn ddiwylliannol ac yn grefyddol. Felly, rwy’n deall bod diamodrwydd athrawiaethau mewn crefydd yn dod yn llai perthnasol mewn cenedlaethau hŷn ac mae hyn yn wir o ran cenedlaethau hŷn heddiw ac yn y dyfodol. Credaf fod hyn yn nodwedd sy’n gynhenid ​​i  bobl hŷn a dyma sy’n cyfrannu at y syniad bod pobl hŷn yn ddoeth. Maent yn dod yn hyddysg ac yn ymwybodol, sy’n eu galluogi i ganfod yr hyn sy’n iawn neu’n anghywir ac mae’r ymdeimlad hwn o gydbwysedd yn  tueddu i’w harwain at agnostigiaeth yn hytrach nag at gred theistig benodol. Mae hyn yn gwrthddweud yr honiad fod pobl hŷn yn parhau i fod â ffydd yn y credoau a ddysgwyd iddynt pan oedant yn ifanc ac yn hawdd gwneud argraff arnynt.

Gellid dehongli bod datblygiad Fowler o ddamcaniaeth ffydd, a gyflwynwyd yn ei lyfr yn 1981, yn cefnogi’r syniad bod pobl hŷn yn fwy crefyddol na phobl iau, gan fod gwahaniaethau amlwg, sy’n gysylltiedig ag oed i bob cyfnod. Mae’r cyfnod alldaflol-greddfol, a nodweddir gan efelychu credoau pobl hŷn, yn nodweddiadol o blant 3-7 oed. Mae ffydd yn ymddangos fel petai’n datblygu i’r cyfnod nesaf, y cyfnod llythrennol-chwedlonol, pan mae’r gallu i feddwl mewn modd gweithredol pendant yn cael ei ddatblygu.  Mae hyn eto’n berthnasol gan fod plant ysgol, fel arfer, yn dangos y gallu i dderbyn credoau a chynnig sylwadau drostynt eu hunain. Nid yw’r gallu i gwestiynu ystyron go iawn straeon fel damhegion y Beibl yn cael ei ddatblygu fel arfer tan gyfnod  llencyndod a dyna pryd mae pobl ifanc yn dechrau’r cyfnod confensiynol-synthetig, pan maent yn cydymffurfio â grŵp, yn ôl trefn unigolion yn eu harddegau. Dyma lle rwy’n canfod problem wrth ddefnyddio cyfnodau ffydd Fowler er mwyn cadarnhau’r ddadl eich bod yn dod yn fwy crefyddol wrth fynd yn hŷn. Gellid meddwl bod y trydydd cyfnod yn dangos llai o gred grefyddol na’r ail gyfnod o ganlyniad i  dderbyn credoau traddodiadol o aros mewn grŵp, oherwydd bod modd gweld ôl-lithro i’r drefn efelychu a welir yng nghyfnod un.

Mae hyn yn dangos nad yw cyfnodau ffydd Fowler yn dangos bod ffydd yn cryfhau drwy gydol oes unigolyn. Ni wnaeth Fowler lunio’r ddamcaniaeth fel modd o fesur crefyddoldeb ac felly nid yw’n wir fod unigolyn yn fwy crefyddol, po uchaf yw’r cyfnod. Er enghraifft, tybir mai ond gydag oedolion ifanc y gwelid cyfnod pedwar, sef y cyfnod myfyriol-unigol, ond nid yw’n cael ei wahaniaethu gan ffydd grefyddol sy’n fwy defosiynol nag yng nghyfnod tri. Mewn gwirionedd, agwedd wahanol ar gred grefyddol ydyw. Yn y cyfnod hwn, gellir myfyrio ar y ffydd na fyfyriodd yr unigolyn arno erioed, ac mae’n rhaid gwneud hynny. Mae llawer o unigolion yn colli eu dealltwriaeth lythrennol o symbolau crefyddol, ac felly mae pobl yn aml yn colli pob ystyr, gan arwain at lawer ohonynt yn datblygu’n anffyddwyr neu’n amheuwyr yn y cyfnod hwn. Mae hyn yn pwysleisio’r ffaith fod y raddfa’n dangos datblygiadau seicolegol trwy gydol bywyd, sydd weithiau’n gysylltiedig ag oedran ac yn caniatáu i brosesau meddwl ddatblygu, sy’n arwain at aeddfedu ffydd. Eto i gyd, mae’r ffordd y mae unigolyn yn defnyddio ac yn prosesu meddyliau o’r fath, sy’n bresennol ym mhob cam, yn arwain at eu cred grefyddol neu ddiffyg cred grefyddol. Nid yw’r ddamcaniaeth, felly, yn gysylltiedig ag oedran ac ni ellir ei defnyddio i gyfiawnhau’r honiad bod pobl hŷn yn tueddu i fod yn fwy crefyddol na phobl iau.

Ar ôl edrych ar yr amgylchiadau a’r cymhellion sylfaenol dros y farn gyffredin fod pobl hŷn yn fwy crefyddol, rwy’n credu bod tuedd i ddweud bod cenedlaethau hŷn yn fwy crefyddol oherwydd eu bod yn cael eu gweld yn cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau crefyddol mwy traddodiadol fel gweddi. Mae eu magwraeth lymach hefyd yn arwain at fwy o gydnabyddiaeth o grefydd yn eu bywydau. Er hynny, mae’n rhaid cwestiynu’r cymhellion a’r difrifoldeb y tu ôl i’r ymddangosiad allanol. Rwyf hefyd yn credu y byddai’n ddi-chwaeth categoreiddio grwpiau oedran yn nhermau eu crefyddoldeb oherwydd mai cysyniad personol yw crefydd ac mae gan unigolion, hyd yn oed unigolion o’r un oedran, fagwraeth, profiadau a gwerthoedd gwahanol, sydd wedi effeithio ar eu crefyddoldeb. Yn bwysicach na hynny, nid yw’r syniad bod crefyddoldeb yn amhrisiadwy yn dechrau mynd i’r afael â dyfnder yr ansicrwydd yn y rhagdybiaeth fod pobl hŷn yn fwy crefyddol na phobl iau. Mae crefydd ynddo’i hun y tu hwnt i eiriau.

Disgybl chweched dosbarth yw Rachel Marion Evans, sy’n astudio Safon Uwch Astudiaethau Crefyddol CBAC mewn ysgol gyfun yn ne Cymru.