“Astudiaethau Crefyddol yn “datblygu” gyda’r oes neu’n cael eu “diddymu” mewn seciwlariaeth? (Erthygl o rifyn newyddion Addysg Grefyddol gan M Siwsan Williams, Pennaeth Astudiaethau Crefyddol Coleg Llanymddyfri)

For the times they are a changing”oedd geiriau Bob Dylan mewn cân brotest  yn 1964 ac mae hyn yn sicr yn wir am addysg dros y ddwy flynedd nesaf (gan gynnwys addysg grefyddol). Yn wir, mae’n gyfnod o ailstrwythuro ac ail-werthuso cymwysterau lefel TGAU a lefel ‘A’, ac yng ngeiriau Michael Gove mae’n rhaid, yn awr, annog  “mwy o ymestyn” … ” llawer mwy o fanylder” – h.y. mae’n rhaid darparu mwy o “gynnwys” i’n disgyblion mewn gwirionedd. Mae’r newidiadau hyn yn golygu mynd yn ôl at ddull llinol o asesu a symud oddi wrth arholiadau safon UG a safon Uwch. Mae Michael Gove hefyd yn awyddus i sefydliadau a chyrff arholi gael eu harchwilio’n fwy manwl a bod â chyswllt agosach â’r sector prifysgol / AU. I’r rhai hynny ohonom sy’n ddigon hen i gofio dawnsio i “Frankie goes to Hollywood” yn ein crysau T byr!! – rydym yn wirioneddol ddychwelyd at “oes aur” strwythuro ac asesu arholiadau lefel ‘O’ ac ‘A’.

Gan wisgo fy nghap athro/arholwr, gallaf godi fy ysgwyddau a meddwl “Dyma ni eto!!”  oherwydd yn ystod fy 24 mlynedd o weithio ym myd addysg (ydi – mae wedi bod cyhyd â hynny! Ac rwy’n dal i fwynhau fy swydd!!), rwyf wedi gweld llawer o newidiadau. Gallem drafod gwleidyddiaeth – elfennau “cywir” ac “anghywir” y newidiadau hyn, ond yn ddiau nid hyn yw’r mater pwysicaf. O’m rhan fy hun, ac rwy’n siŵr y byddai fy nghydweithwyr yn cytuno â mi, y disgyblion yw ein blaenoriaeth (gan gynnwys fy mab fy hun, sydd ynghanol y newidiadau hyn).

Yn ogystal â newidiadau sylfaenol  yn y byd addysg yn gyffredinol, gwelir hefyd rhyw fath o chwyldro marchnata mewn astudiaethau crefyddol, yn ail-frandio astudiaethau crefyddol bron fel cangen o athroniaeth. Oherwydd bod astudiaethau crefyddol yn gorfod cystadlu mewn marchnad sy’n fwyfwy anodd ac yn gynyddol seciwlar (yn enwedig oherwydd bod arholiadau lefel ‘ A’ yn datblygu i fod â  llawer mwy  o “gynnwys trwm”), bydd llawer o ysgolion yn mabwysiadu tair rhaglen lefel ‘A’ yn hytrach na’r pedair rhaglen bresennol. Mae llawer o ysgolion yn y sector annibynnol ac ysgolion y wladwriaeth yn “ail-frandio” astudiaethau crefyddol fel “Athroniaeth”, “Moeseg” neu Athroniaeth, Crefydd a Moeseg (“PRE”).

Mae hyn mewn ymateb i athroniaeth a moeseg fel dewisiadau modwlar poblogaidd ar lefel TGAU a lefel ‘A’.  Mewn cymdeithas aml-ethnig / aml-ddiwylliannol, tybir ei bod yn “haws” marchnata “athroniaeth” yn hytrach na “chrefydd”, ac mae hyn yn adlewyrchu angen ein cymdeithasau am lawer mwy o gynhwysedd. Er, fel Cristion, rwy’n tristáu braidd oherwydd y gwanhau a seciwlareiddio amlwg a welir mewn astudiaethau “crefyddol”. Rwy’n cytuno â David Cameron na ddylem ofni dweud ein bod yn byw mewn cymdeithas “Gristnogol”. Rwy’n ffodus iawn fy mod yn gweithio mewn ysgol lle mae gwerthoedd Cristnogol / ysbrydol yn gynhenid ​​yn ei gwerthoedd craidd ac mae’r rhain yn cael eu hymgorffori ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol – o’r warden i lawr.

Ond rwy’n credu bod rhaid i ni beidio â phetruso rhag newid ychwaith – fel y rhychau ar fy wyneb mae newid yn digwydd p’un a ydym yn eu hoffi ai peidio! Y prif beth yw bod astudiaethau crefyddol yn goroesi – rwy’n ofni mai achos o’r cryfaf yn goroesi ydyw – felly byddaf yn ail-frandio astudiaethau crefyddol yn Athroniaeth, Crefydd a Moeseg {os bydd angen} i gyd-fynd â gofynion ein cymdeithas ac i gadw diddordeb prifysgolion. Y prif bwynt yw bod pwnc mor bwysig a heriol yn goroesi oherwydd fy mod yn credu y byddai’n golled fawr i’n cymdeithas ac i’r system addysg yn ei chyfanrwydd os nad yw hynny’n digwydd.