GWLEIDYDDIAETH YW HYN – CADWCH DRAW!

Cafodd Esgobion Eglwys Lloegr eu ceryddu’n ddiweddar yn dilyn eu llythyr agored am yr Etholiad cyffredinol nesaf. Disgrifiwyd y llythyr mewn erthygl yn y Times, a gyhoeddwyd ddydd Mercher Lludw, fel “ymosodiad llym ar ddiwylliant gwleidyddol Prydain”. Yn yr olygyddol yr un diwrnod, dan y pennawd ‘Camsyniad Esgobion’, cafodd y llythyr ei farnu ymhellach fel llythyr oedd yn “gamarweiniol ac yn amlwg yn hollol bleidiol mewn sawl ffordd”. Nid wyf wedi darllen y llythyr ac mae gennyf fy marn fy hun am y mater, nad wyf am ei datgelu yn yr erthygl hon, ond byddaf yn ceisio ymdrin â’r cwestiwn sy’n deillio o hyn i gyd, sef, ‘A ddylai’r Eglwys gymryd rhan yng ngwleidyddiaeth?’

Cofiwn i’r Iesu ddweud fod eiddo Cesar i  Cesar, ac eiddo Duw i Dduw. Dywedodd yr Apostol Paul wrth y Cristnogion yn Rhufain iddynt fod yn ddarostyngedig i’r awdurdodau oedd yn llywodraethu – nid oedd y rhain ymysg y bobl garedicaf ar y pryd! – ac aeth ymlaen i ddweud bod awdurdodau o’r fath wedi cael eu sefydlu gan Dduw (Rhufeiniaid 13, adnodau 1-2). Dywedodd Pedr, ei gyd-apostol, yr un math o beth (1 Pedr 2, adnodau 13-14).

Mae hyn fel petai’n awgrymu y dylai’r Eglwys gadw’n glir o dir o’r fath a’i adael i bobl eraill. Ond, arhoswch am funud! Mae’r hyn y cyfeiriais ato uchod yn rhagdybio bod yr awdurdodau llywodraethol rydym dan eu rheolaeth, y Cesar rydym yn atebol iddo, yn ein trin ni a’n brodyr a’n chwiorydd yn weddus ac yn deg, ac yn unol ag egwyddorion sylfaenol cyfiawnder a rhyddid sy’n gydnaws â theyrnas Dduw.

Gofynnir yn aml i Esgobion bregethu mewn gwasanaethau urddo meiri ar ddechrau eu blwyddyn yn eu swyddi neu ddechrau rhyw dymor dinesig arall mewn swydd. Pan ofynnir i mi wneud hynny, rwyf bob amser yn derbyn y gwahoddiad ac yn mynd i’r afael â chysylltiad yr eglwys â bywyd gwleidyddol yn fy mhregeth. Fel darlleniadau, byddaf yn aml yn dewis adnodau agoriadol pennod 61 o broffwydoliaeth Eseia – Y mae ysbryd yr Arglwydd Dduw arnaf, oherwydd i’r Arglwydd fy eneinio i gyhoeddi newyddion da……………. – a rhan o lyfr Ioan, pennod 10, lle dywed yr Iesu ei fod wedi dod i’r byd fel y gallent hwy gael bywyd, bywyd yn ei holl gyflawnder. Pa ‘faniffesto gwleidyddol’ allai fod yn well na hyn? Mae’n golygu rhoi llais i’r di-lais, rhoi rhwymau am y rhai sy’n fregus a hyrwyddo hawliau’r rhai gorthrymedig. Pwy feiddia ddweud nad yw ffydd a gwleidyddiaeth yn cyd-fynd â’i gilydd?

Rwyf o’r farn bendant eu bod, o gael eu deall yn iawn, yn gymheiriaid eithaf da mewn gwirionedd. Mae Teyrnas Dduw yn ymwneud â chyfiawnder a rhyddid; a lle caiff y rhain eu gwrthod, neu lle gwneir penderfyniadau sy’n ormodol ac yn annheg ar bobl, nid oes gan yr eglwys ddewis ond mynegi hynny. Hyd yn oed os gellir cyfiawnhau’r nodau yn y pen draw, dylai’r dulliau a ddefnyddiwyd i’w cyflawni fod yn rhai cywir sy’n amharu ar y nifer lleiaf o bobl, yn hytrach na’r dulliau cyflymaf a rhataf yn y tymor byr.

Nid mater o fwynhau canhwyllau a cherddoriaeth organ am awr ar y Sul yw bod yn Gristion. Mewn oes pan mae caledi yn parhau i fod yn bwnc llosg, rhaid i egwyddor o’r fath gael ei mynegi’n uchel ac yn eglur; ac os yw hyn yn golygu crwydro, hyd yn oed yn hollol barod a gwybodus, i fyd gwleidyddiaeth yn hytrach na siarad amdano’n gyffredinol yn unig, felly y bo!