How far have we travelled along the yellow brick road?

Mae pawb yn gwybod y stori hudolus am Dorothy’n teithio ar hyd y ffordd frics melyn i chwilio am ddoethineb Dewin yr Os. Mae’n gwneud ffrindiau gyda thri chydymaith newydd ar ei thaith. Mae’n stori wych, wrth gwrs, a hoffwn ddefnyddio rhai elfennau o’r stori i dynnu sylw at rai o’m pwyntiau pwysig fy hun. Mewn cyfnod cynharach, efallai, byddwn wedi defnyddio stori John Bunyan am y pererin, Christian, yn mynd i chwilio am y ddinas nefolaidd. Ond, o ystyried llythrennedd crefyddol heddiw, ychydig iawn fyddai’n deall yr hyn y byddwn yn cyfeirio ato. Rydym wedi gweld newid mawr yng nghyfeiriad teithio ym maes Addysg Grefyddol. Rydym wedi teithio’n bell ar hyd ffordd frics melyn newydd o ran Addysg Grefyddol, ymhell i mewn i’r goedwig hud, a byddai troi’n ôl yn awr yn ffolineb pur; ond rydym, o bosib, wedi cyrraedd croesffordd arwyddocaol.

Mae llawer ohonom ym myd Addysg Grefyddol yn gwybod bod addysg bellach yn un o nifer o deganau, fel petai, mewn gêm wleidyddol ac mae’n ymddangos bod gan bawb eu barn. Fel athro Addysg Grefyddol, gyda 35 o flynyddoedd o brofiad yn y maes, credaf fod gennyf yr hawl i wneud sylw pwysig ynghylch y cyfeiriad rydym ni fel pwnc yn ei deithio.

Does fawr o amheuaeth bellach fod y Deyrnas Unedig ar y naill law yn gymdeithas gynyddol seciwlar sydd â chredoau ac arferion crefydd yn ymddangos yn fwyfwy amherthnasol i lawer, ac ar y  llaw arall yn gymdeithas grefyddol amlblwyfol. Mae’n rhaid i Addysg Grefyddol gymryd ei le yn y dirwedd grefyddol newidiol, sy’n aml yn anghyson, os ydyw am oroesi a pharhau i ffynnu fel pwnc sydd â gwerth iddo yng nghwricwlwm ysgolion.

Pwy oedd y tri chydymaith ar fy ffordd i? Fy ffydd fy hun wrth reswm. Ni fyddaf byth yn ceisio trosi plant i’m ffydd grefyddol fy hun ond rwyf ar y daith oherwydd bod gennyf ffydd bersonol ddofn. Mae hyn yn rhan bwysig o bwy ydw i ac mae wedi fy ysbrydoli i fod eisiau dysgu plant yn dda a rhannu fy mrwdfrydedd am grefydd gyda nhw. Nid oes gennyf unrhyw agenda cudd. Nid wyf, nac erioed wedi bod, yn ddim mwy na gwyliwr yn y daith hon. Rwy’n credu’n gryf yng ngwerth Addysg Grefyddol ragorol a’i phwysigrwydd i unigolion a chymdeithas. Yn wir, i mi, mae addysgu bob amser wedi bod yn alwedigaeth. Er fy mod yn athro hynod brofiadol, fel y dywed yr Yoda yn Star Wars, ‘mae gennyf lawer mwy i’w ddysgu o hyd’. Rwyf wedi croesawu unrhyw gyfleoedd i wneud fy newis bwnc yn ddiddorol a pherthnasol i bobl ifanc, ac yn parhau i wneud hynny gyda brwdfrydedd ac agwedd gadarnhaol. Ond (ac mae’n ‘ond’ arwyddocaol), cefais fy hyfforddi’n athro Addysg Grefyddol a dyna’r oll yr oeddwn yn dymuno’i addysgu erioed.

Felly rydym wedi cyrraedd croesffordd. Nid wyf erioed wedi addysgu disgybl a ddywedodd wrthyf ei fod ef neu hi yn ddyneiddiwr. Rwyf wedi dysgu pobl ifanc a oedd yn honni eu bod yn anffyddwyr, yn agnostig, yn baganiaid, ond erioed yn ddyneiddwyr. Rwyf wedi addysgu disgyblion chwilfrydig, rhai nad oeddent yn alluog, rhai brwdfrydig, rhai â dim diddordeb yn y pwnc, rhai deallus, rhai â diddordeb yn y pwnc, rhai cwrtais, rhai anghwrtais a rhai oedd yn gwrthwynebu Addysg Grefyddol yn gyfan gwbl, ond neb oedd yn honni ei fod yn ddyneiddiwr. Wrth wraidd yr holl waith a gyflawnais mae’r gred gadarn fy mod yn addysgu pwnc rwy’n ystyried sydd â gwerth enfawr iddo o hyd ac sy’n berthnasol i bawb. Ac mae angen i ni agor ein llygaid. Nid yw dyneiddwyr yn derbyn gwerth cred neu arfer crefyddol – pam fydden nhw? Yng nghrefydd y byd dyneiddiol – mae pob crefydd yn ffug ac rwy’n methu’n lân â deall pam bod cymaint o goel yn cael ei roi i’r safbwynt hwn gan athrawon Addysg Grefyddol ac eraill. Rwy’n croesawu amrywiaeth o safbwyntiau yn yr ystafell ddosbarth, ond rwyf yno i addysgu disgyblion am grefydd. Gwae ni os anghofiwn hyn. Rydym ychydig yn debyg i fwgan brain – yn llenwi ein hamser prin ar gwricwlwm pwysig gyda bêls gwellt.

Fy nghydymaith arall ar y daith oedd llawer iawn o synnwyr cyffredin – rwyf yn realydd. Rwy’n gwybod nad yw pawb yn rhannu fy nghred yng ngwerth crefydd. Yn fy marn i, nid yw dyneiddiaeth yn rhoi unrhyw werth ar naill ai’r gred neu arfer crefydd. Ymgais yw’r agenda dyneiddiol i herwgipio Addysg Grefyddol at ei ddiben cyfrwys ei hun. Mae agenda ynghlwm wrth wraidd dyneiddiaeth sy’n ceisio rhyddhau pobl o unrhyw gred neu arfer crefyddol, a chael gwared ar bob crefydd yn y pen draw; dinas emrallt nefolaidd lle does dim ymdeimlad nefolaidd. Nid crefydd yw dyneiddiaeth, yn fy marn i. Wrth gwrs mae’n gipolwg dilys o’r byd i lawer, ond crefydd? Dim o’r fath beth. Ac rydym ni fel athrawon Addysg Grefyddol, yn fy marn i, yn lleihau gwerth ein pwnc wrth beidio â herio hynny. Fel y dyn tun yn y stori, mae angen i ni edrych ar wraidd yr hyn rydym yn ei wneud. Yn sicr, dylem fod yn addysgu disgyblion am grefydd.

Ymdeimlad o bersbectif oedd fy nghydymaith arall. Rwy’n credu y dylai bob un ohonom sy’n ymwneud ag Addysg Grefyddol feddu ar elfen gref o bersbectif. Mae’r bobl ifanc sy’n ein gofal ar ddechrau eu taith bywyd a byddant yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain am werth crefydd, yn llawer hwyrach yn eu bywydau yn ôl pob tebyg. I lawer ar ddechrau’r daith hon, mae eu profiadau bywyd yn golygu mai ychydig o wybodaeth a dealltwriaeth o grefydd sydd ganddynt, a dim dimensiwn ysbrydol i’w bywydau ychwaith. Dyw’r profiad hwn ddim yn bodoli bron i lawer o bobl ifanc. Fel athrawon Addysg Grefyddol mae dyletswydd arnom i drosglwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o grefydd i helpu pobl ifanc geisio gwneud synnwyr o beth mae’n ei olygu i fod yn perthyn i grefydd. Mae dyletswydd arnom i helpu pobl ifanc ddatblygu rhyw ymdeimlad o barchedig ofn a rhyfeddod. Ac ar yr un pryd rhoi’r sgiliau a’r adnoddau iddynt i ddatblygu meddwl chwilfrydig a goddefgar ar gyfer y dyfodol. Os a phan y byddwn yn rhoi’r gorau i wneud hyn, pam y byddem eisiau addysgu Addysg Grefyddol o gwbl? Athrawon ydym, wedi’r cyfan, a cheidwaid pyrth y ffordd frics melyn bwysig hon at wybodaeth grefyddol a dealltwriaeth ddyfnach o fywyd yn y pen draw. Rwyf bob amser wedi ystyried hyn fel rhan hanfodol o’m gwaith; ceisio rhannu rhywfaint o wybodaeth a rhywfaint o ddealltwriaeth o grefydd a’r dimensiwn ysbrydol. Nid wyf yn teimlo unrhyw reidrwydd i ymddiheuro am hyn na chael unrhyw wobr amdano – yn wahanol i’r llew.

Ar ddiwedd y stori rydym yn dysgu mai breuddwyd oedd taith Dorothy mewn gwirionedd. Mae wedi bod yn fraint ddiamod i mi fod yn athro Addysg Grefyddol – fy swydd ddelfrydol. O ran y genhedlaeth newydd o athrawon Addysg Grefyddol, rwy’n gobeithio na fydd y swydd yn troi’n hunllef iddynt.

Nawr ble mae fy nghopi o Daith y Pererin?

Christopher Owens