Meddiant gan Ysbrydion ym Mrasil

Meddiant gan Ysbrydion ym Mrasil

Adrodd am astudiaeth ar ffenomena profiad crefyddol

Bettina E. Schmidt, Prifysgol y Drindod Dewi Sant

Mae profiad crefyddol yn derm amwys a ddefnyddir i ddisgrifio a chategoreiddio profiadau o fathau gwahanol iawn. Yn aml iawn nid yw pobl sy’n cael profiad crefyddol yn cyfeirio ato fel profiad crefyddol, maent yn tueddu i’w ddisgrifio fel profiad ysbrydol neu hyd yn oed brofiad normal. Maent yn ofni y byddai ei alw’n brofiad ‘crefyddol’ yn awgrymu bod eu profiad yn rhyw fath o weithgaredd ‘annormal’. Roedd hyn hefyd yn wir am fy ymchwil am feddiant gan ysbrydion a swyngwsg ym Mrasil. Mae meddiant gan ysbrydion yn perthyn i amrywiaeth o brofiadau crefyddol y gellir eu gweld ar draws y byd. Mae fel arfer yn digwydd mewn defodau cyhoeddus lle mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn ymddwyn mewn ffordd a ddehonglir fel petaent wedi eu meddiannu gan ysbrydion. Caiff ei ystyried gan bobl o’r tu allan yn aml fel ymddygiad negyddol, bod meddiant gan ysbrydion yn rhyw fath o “feddiant gwallgof” sy’n rhoi pobl mewn perygl. Ond mae pobl sy’n cael profiad ohono yn aml yn disgrifio’r profiad mewn modd cadarnhaol.  Mae’n ymddangos ei fod yn rhoi grym iddynt ac yn cyfoethogi eu bywydau. Yn aml, caiff meddiant gan ysbrydion ei ystyried gan y gymuned fel techneg hyd yn oed, sef dull o gyfathrebu rhwng byd yr ysbrydion a byd bodau dynol, a chaiff y sawl sy’n ymgorffori’r ysbryd ei  ddisgrifio fel unigolyn sy’n cysylltu ag ysbrydion, ac sy’n galluogi’r cyfathrebu rhwng y ddau fyd.

Cyd-destun crefyddol Brasil

Mae Brasil yn wlad a bortreadir fel arfer fel gwlad Gatholig. Ond mae Brasil yn newid. Dim ond 65% o Frasiliaid a nododd eu bod yn Gatholigion yng nghyfrifiad 2010, o’u cymharu â 90% yn 1970, sy’n ostyngiad anferthol. Dywedodd hyd yn oed y Cardinal Cláudio Hummes, un o’r prif arweinwyr Catholig ym Mrasil, “Rydym yn poeni: pa mor hir y bydd Brasil yn parhau i fod yn wlad Gatholig?” (yn y New York Times, 14/2/2013). Ond nid yw data’r cyfrifiad yn cynnwys unrhyw beth am ymrwymiad crefyddol neu gred bersonol. Mae pobl yn gwahaniaethu rhwng yr hyn maent yn ei ddatgan fel “crefydd swyddogol” a’u hymrwymiad personol i’r byd ysbrydol. Felly, mae nifer y bobl sy’n datgan yn y cyfrifiad eu bod yn perthyn i’r Eglwys Gatholig Rufeinig neu unrhyw un arall o’r amryw o eglwysi Cristnogol sy’n lledaenu drwy Frasil yn cynnwys nifer fawr o bobl sy’n ymarfer un o draddodiadau crefyddol poblogaidd Brasil ar yr un pryd. Ni chaiff ei ystyried yn baradocs i ymarfer mwy nag un grefydd neu uniaethu â Christnogaeth yn ogystal â pherfformio defodau gwahanol iawn ar yr un pryd – nid yw’r traddodiadau’n cael eu hystyried mor wahanol oherwydd eu bod i gyd yn ymgrymu  i’r un Duw a greodd y byd. Felly mae’n bosib i Frasiliad berthyn i eglwys Gristnogol yn ogystal ag anrhydeddu ysbrydion y meirw neu dduwiau a duwiesau Affrica. Mae nifer helaeth o Frasiliaid, yn arbennig mewn cyfnod o argyfwng, yn tueddu i ofyn i’r byd ysbrydol am gyngor.

Amrywiaeth y profiadau o feddiant gan ysbrydion ym Mrasil

Un nodwedd gyffredin o’r traddodiadau poblogaidd yw’r gred ei bod yn bosib cyfathrebu â bodau ysbrydol yr ystyrir iddynt ddylanwadu ar dynged pobl. Mae’r cyfathrebu rhwng pobl ac ysbrydion yn cael ei hwyluso gan unigolion sy’n gallu cysylltu ag ysbrydion a gall ddigwydd mewn gwahanol ffyrdd. Arfer cyffredin mewn Ysbrydegaeth, er enghraifft, yw ysgrifennu awtomatig sy’n awgrymu bod ysbryd yn arwain braich yr unigolyn wrth iddo ef/hi ysgrifennu. Y nod yw cyfleu neges gan y byd ysbrydol i’r byd dynol. Dull arall yw meddiannu corff yr unigolyn sy’n cysylltu ag ysbrydion er mwyn siarad drwy ei gorff/chorff neu gyfathrebu â’r gynulleidfa mewn ffyrdd eraill (e.e. symudiadau’r corff), fel y dengys y lluniau. Mae un llun yn dangos dau unigolyn sy’n cysylltu ag ysbrydion yn sgwrsio â’i gilydd pan maent wedi eu meddiannu. Mae’r gymuned yn dehongli’r digwyddiad fel dau ysbryd, sydd wedi cymryd rheolaeth dros gyrff dynol, yn siarad â’i gilydd.

Mae llun arall yn dangos unigolyn sy’n cysylltu ag ysbrydion yn sefyll yn dawel ar gyrion seremoni, yn symud ei ddwylo’n unig. Ac yn y trydydd llun, gwelir unigolyn sy’n cysylltu ag ysbrydion yn dawnsio pan mae wedi ei feddiannu. Cafodd y lluniau eu tynnu mewn gwahanol seremonïau ac maent yn dangos  amrywiaeth y profiad corfforol. Ond er gwaethaf y gwahaniaeth, mae’r bobl sy’n cael profiad ohono fel rheol yn disgrifio’r gweithgaredd fel ffordd o gyfathrebu. Gall y profiad fod yn brofiad brawychus ac yn brofiad gofidus, hyd yn oed, ond ni chaiff ei ystyried yn beryglus neu’n fygythiad i fywyd, hyd yn oed pan mae’r unigolyn sy’n cysylltu ag ysbrydion neu’r sawl a feddiannir, weithiau, wedi dysgu dod â’r sesiwn i ben. Er bod y bod dynol yn colli rheolaeth ac yn aml ddim yn cofio beth ddigwyddodd yn ystod y sesiwn, nid yw’n cael ei ystyried fel salwch neu gosb ddemonaidd.  Mae’n cael ei ystyried, yn hytrach, yn brofiad mae’r unigolyn sy’n cysylltu ag ysbrydion yn ei drysori, fel y dengys y pytiau canlynol o gyfweliadau.

P3280302

Disgrifiodd un unigolyn sy’n cysylltu ag ysbrydion, a gyfwelais yn São Paulo, y profiad yn huawdl fel hyn:

‘Wnes i gofio dim byd y tro cyntaf, roedd yna deimlad o wres cryf, teimlad o wres, a theimlo’n gysglyd ar yr un pryd, pwysau enfawr mewn rhan o’m cefn, fy ngwddf a dechreuais deimlo fy nghalon. Roedd fy nghalon yn cyflymu! Ac roedd yn teimlo fel dwy galon yn curo y tu mewn i mi. Roedd fel grym yn fy ngwddf, rhyw rym cryf iawn yn fy ngwddf, fel fy mod yn teimlo y byddai’n dechrau siarad. Ond yr eiliad honno, am y tro cyntaf, roeddwn yn teimlo ofn mawr arnaf. Oherwydd pan ddechreuodd ddigwydd, roeddwn yn amau a fyddai’n brofiad da neu ddrwg ac roeddwn yn ceisio’i stopio.  Pan oeddwn yn gadael, roeddwn yn teimlo fel petai y byddai’n dechrau cyfathrebu mewn breuddwyd. ‘(Cyfweliad ar 27 Mai, 2010 yn São Paulo)

Mae’r disgrifiad byw hwn o brofiad cyntaf o agosáu at endid ysbrydol yn ddyfyniad o gyfweliad a recordiais yn ystod 2010, ac mae’n eithaf nodweddiadol o’r ffordd mae unigolion sy’n cysylltu ag ysbrydion ym Mrasil yn siarad am eu profiadau. Cyfarfûm â’r unigolyn oedd yn cael ei gyfweld ar wahanol adegau a dywedodd yn aml wrthyf sut daeth y profiad â chreadigrwydd i’w bywyd, ynghyd ag ymdeimlad o ddiogelwch. Fel artist, roedd yn cysylltu ei phrofiad ysbrydol â’i gweledigaeth artistig ac roedd hynny’n ei galluogi i wneud synnwyr o’r nifer o droadau a gymerodd ei bywyd. Nodwedd gyffredin arall yn fy nghyfweliadau oedd cyfrifoldeb yr unigolion sy’n cysylltu ag ysbrydion. Pan ofynnais beth fyddai’n digwydd pe byddai ysbryd negyddol yn agosáu at un ohonynt, roedd yr unigolion yn mynnu y byddai’r rhai ohonynt sy’n dda am gysylltu ag ysbrydion yn gallu atal hynny rhag digwydd.

‘Nid yw cysylltu ag ysbrydion yn golygu y caiff yr ysbryd wneud fel y mynno, gan nad yw heb gyfrifoldeb pan mae’n anymwybodol. Ni fyddai unigolyn sy’n cysylltu ag ysbrydion yn onest iawn pe bai’n dweud “ond does gennyf ddim i’w wneud â hynny, doeddwn i ddim yn gwybod sut y gallai ddigwydd.” ….. Mae’n gwybod yn union beth ddigwyddodd. … fe wnaeth gydweithio.’ (Cyfweliad ar 30 Mawrth, 2010 yn São Paulo)

Dywedodd yr unigolyn hwn a gyfwelwyd (sylfaenydd canolfan ysbrydegol fach yn São Paulo sy’n arbenigo mewn iachau ysbrydol) bod mynd ymlaen i fod yn unigolyn sy’n cysylltu ag ysbrydion yn golygu datblygu galluoedd ysbrydol. Dylai unigolyn sydd wedi ei hyfforddi i gysylltu ag ysbrydion allu adnabod yr ysbrydion sy’n agosáu drwy deimlo dirgrynu. Yn yr un modd â’r unigolion eraill a gyfwelwyd, mynnodd ei bod yn hanfodol i unigolion sy’n cysylltu ag ysbrydion gael eu hyfforddi. Mae’n rhaid iddynt ddysgu sut i adnabod y profiad a sut i ymdrin â’r profiad. Ond nid yw pob unigolyn sy’n cysylltu ag ysbrydion yn gallu rheoli’r profiad, fel y disgrifiwyd yn y cyfweliad hwn.

‘Weithiau rwy’n teimlo fel pe bai fy mreichiau’n syrthio i gysgu, neu fy nghoesau. Rwy’n teimlo weithiau hyd yn oed fel pe bawn yn cael trawiad ar y galon. …. Weithiau mae’n dechrau gyda dawnsio, yn eithaf chwyrn, ond rwy’n dal yn ymwybodol. Ond ni allaf reoli fy hun, na rhoi’r gorau i ddawnsio. ‘(Cyfweliad ar Ebrill 14, 2010 yn São Paulo)

Yn y cyfweliad hwn, disgrifiwyd yn fanwl y gwahaniaethau rhwng yr ysbrydion sy’n agosáu a’r hyn a gofia’r unigolyn am y digwyddiadau. Yn ddiweddarach, cefais fod yn bresennol mewn seremoni pan gafodd ei feddiannu gan ysbryd. Digwyddodd fel rhyw fath o ‘glinig agored’: roeddwn yn aros gyda chleifion eraill y tu allan i gwt bychan – cafodd pob un ohonom rif wrth gyrraedd – a phan oedd ef a’r unigolion eraill oedd yn cysylltu ag ysbrydion yn barod, daeth cynorthwyydd i alw pob un ohonom i’r ystafell fesul un, lle roeddem yn gallu ymgynghori ag ysbryd drwy un o’r unigolion hynny. Yna daeth y prif unigolyn oedd yn cysylltu â’r ysbrydion – yr un a gyfwelwyd gennyf – allan i’r ardd a chynnig rhywfaint o gyngor ychwanegol tra bod ei gynorthwyydd yn dosbarthu ryseitiau ar ffurf presgripsiynau.

Mae hyn yn fy arwain at yr elfen iacháu. Hyd yn hyn, rwyf wedi bod yn trafod yr effaith gadarnhaol ar yr unigolion sy’n cysylltu ag ysbrydion. Ond prif ddiben meddiant gan ysbryd yw helpu pobl eraill. Prif bwrpas yr unigolion sy’n cysylltu ag ysbrydion yw siarad gyda’r cleientiaid a chynnig cyngor iddynt. Felly maent yn disgwyl cael eu holi oherwydd mai dyna pam mae’r ysbrydion yn bresennol, i roi cyngor. Cwestiynau’n ymwneud â phroblemau cymdeithasol yw’r cwestiynau a ofynnir yn aml, e.e. ynglŷn â chariadon, gŵr neu wraig, mab neu ferch. Weithiau, mae’n ymwneud â phenderfyniad sy’n rhaid i rywun ei wneud (e.e. ynglŷn â derbyn swydd newydd, dewis ysgol neu brifysgol, p’un ai deithio yn awr neu’n hwyrach). Weithiau, mae’n ymwneud â materion iechyd (e.e. problemau cysgu, problemau canolbwyntio, teimlo’n isel eu hysbryd). Bydd pobl weithiau’n gofyn cwestiynau am faterion iechyd corfforol. Cyfeirir materion iechyd difrifol at ganolfannau meddygol fel arfer, er bod rhai yn cynnig help hefyd i gleifion sydd â salwch terfynol. Ond nid yw’r cynnig hwn yn gysylltiedig â meddiant gan ysbryd, yn hytrach y gwrthwyneb sy’n wir: mae rhai gweinidogion mewn eglwysi neo-Bentecostaidd ym Mrasil yn dadlau y gellir gwella cleifion trwy fwrw ysbrydion drwg allan ohonynt fel y gall yr Ysbryd Glân gymryd eu lle. Ond math gwahanol o brofiad yw hwnnw a byddai’n arwain at erthygl wahanol.

Yr her olaf – Sut i astudio meddiant gan ysbrydion?

Mae ysgolheigion wedi casglu adroddiadau di-ri am feddiant gan ysbryd ac am swyngwsg. Ond er ei bod yn bosib disgrifio’r ffenomenon a dosbarthu profiadau o’r fath yn ôl eu swyddogaeth hyd yn oed, mae astudio meddiant gan ysbrydion yn llawn heriau i’r ymchwilydd. Sut gallwn ni astudio rhywbeth sy’n digwydd ym meddyliau pobl? Nid oes unrhyw brawf a yw ysbryd wedi cymryd meddiant o gorff dynol mewn gwirionedd. Rydym yn gweld y perfformiad, ymgorfforiad y meddiant. Mae’n rhaid i ni ddibynnu ar adroddiadau gan y bobl sy’n cael profiad o hyn os ydym eisiau deall eu fframwaith cysyniadol. Dywed y seicotherapydd Jungaidd, José de Morais Jorge Sachareias,  a gyfwelais yn ystod 2010 yn São Paulo, ‘os yw unigolyn yn cael profiad o rywbeth anarferol ond ddim yn cael esboniad ohono [gan ei amgylchedd], bydd yn achosi pryder a dryswch iddo, neu hyd yn oed ansefydlogrwydd meddyliol. Dim ond pan ceir esboniad sydd wedi ei roi mewn cyd-destun diwylliannol y daw’r profiad yn ystyrlon ac yn strwythuredig’ (cyfweliad ar 15/04/2010). Felly mae’n bwysig deall sut mae pobl sy’n cael profiad o feddiant gan ysbryd yn dehongli eu profiad, p’un ai ydynt yn ei alw’n brofiad crefyddol ai peidio.