YMUNWCH Â’R FYDDIN A GWELD Y BYD” – OND BETH ARALL?

Roedd y slogan ddeniadol hon yn eithaf cyfarwydd yn lled ddiweddar, pan oedd y fyddin yn cynnal ymgyrch recriwtio benodol mewn cyfnod pan nad oedd Prydain yn ymwneud llawer iawn â gweithredu milwrol. Roedd yn awgrymu’n bendant bod y fyddin yn gyfle i deithio, dysgu sgiliau ac, wrth gwrs, meithrin brawdoliaeth. Nid oes amheuaeth bod y fyddin yn cynnig pob un o’r rhain, a bod bywydau llawer o unigolion yn gwella a’u hunan-barch yn cynyddu o ganlyniad uniongyrchol i ymuno â’r fyddin a chael hyfforddiant. Er gwaethaf y ffaith amlwg mai prif ddiben lluoedd arfog yw gweithredu’n filwrol i amddiffyn pobl eraill a gwrthsefyll drygioni, nid yw’r realiti am ymuno â’r fyddin yn amlwg iawn bob amser, mewn gwirionedd.

Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae gweithredu milwrol wedi bod yn llawer mwy cyffredin a chanlyniadau hynny ar fywyd, iechyd a lles milwyr yn llawer mwy dealladwy.

Mae dealltwriaeth o effeithiau parhaol, a dinistriol weithiau, anhwylder straen wedi trawma (PTSD) – ‘shell-shock’ yr arferid ei alw yn y gorffennol, a’r rhai oedd yn dioddef ohono’n cael eu brandio’n gachgwn ac yn cael eu saethu hyd yn oed fel pe baent yn ffoaduriaid – yn fwy hysbys bellach. Ar ben hynny, mae gwaith ymchwil parchus a dilys wedi datgelu bod anhwylder straen wedi trawma yn debygol o effeithio’n waeth ar fywydau unigolion ifanc sy’n dioddef o drawma a straen o ganlyniad i ymladd mewn byddin.

Am y rheswm hwn, trefnwyd ymgyrch, dan arweiniad sefydliadau fel Child Soldiers a gyda chefnogaeth nifer o eglwysi, i geisio perswadio’r llywodraeth i godi oedran recriwtio unigolion i’r lluoedd arfog i 18 oed. Yr oedran ar hyn o bryd yw 16 oed, er nad yw unigolion yn cael mynd i ryfel cyn iddynt fod yn 18 oed. Hyd yn oed yn y rhyfel byd cyntaf, 18 oed oedd yr oedran isaf o ran recriwtio neu orfodaeth filwrol, gyda gweithredu milwrol o bosib yn dechrau yn 19 oed.

Byddwn ymhlith y cyntaf i fynegi edmygedd a pharch at bob aelod o’n lluoedd arfog ac i gymeradwyo eu dewrder, eu sgiliau a’u hymrwymiad at heddwch a chyfiawnder. Ond byddwn hefyd ymhlith y cyntaf i gefnogi’r ymgyrch i godi’r oedran recriwtio i 18 oed a byddwn yn awgrymu 20 oed fel yr oedran i gymryd rhan mewn gweithredu milwrol am y tro cyntaf. Waeth pa mor aeddfed yr ymddengys pobl yn 16 oed, ni chant bleidleisio, gyrru, priodi (heb ganiatâd) na phrynu alcohol neu dybaco. A yw’n briodol, felly, waeth pa sgiliau eraill maent yn eu dysgu neu faint mae eu hunan-barch yn gwella, iddynt gael eu hyfforddi i ladd? Rwy’n awgrymu nad yw’n briodol. Yn gyfreithiol maent yn dal yn blant neu’n bobl ifanc dan oed, ac yn bwysicach na hynny, nid ydynt yn ddigon cadarn yn seicolegol bob amser i wrthsefyll caledwch a risgiau’r hyn a allent orfod eu hwynebu. Gall gwrthdaro’r 21ain ganrif fod yn fwy clinigol a soffistigedig. Ond, fel sy’n wir bob amser, mae’n dal i fod yn brofiad brawychus a niweidiol.

Nid yw rhyfel yn newid, er ei fod yn angenrheidiol weithiau yn wyneb drygioni a thywyllwch; ac mae anhwylder straen wedi trawma yn gystudd ofnadwy. Rhaid i ni sicrhau bod yr unigolion rydym yn eu rhoi mewn perygl o ddioddef ohono mor gadarn â phosib, ym mhob ffordd. Y cyfan rwyf yn ei ofyn yw codi’r oedran i leihau’r risg hwnnw.

Esgob John Davies