Bedydd. Ysgol Edern.

Bedydd. Ysgol Edern.

Yn ddiweddar cafodd disgyblion a staff Ysgol Edern, Llŷn, gyfle i ddathlu achlysur arbennig a oedd yn binacl tymor o ddysgu ac ymchwilio i bwrpas a threfn seremoni bedydd Cristnogol.  Er mwyn i’r plant gael y profiad o fod yn rhan o wasanaeth mor arwyddocaol trefnwyd bedydd yn yr eglwys leol yng ngofal y Parchedig Richard Wood, Morfa Nefyn a’i wraig Naomi. Mae pob blwyddyn yn yr ysgol yn cael gwersi Addysg Grefyddol yn wythnosol ac felly yr oedd y plant i gyd wedi cwblhau tymor o waith ar bob agwedd o fedydd a oedd yn golygu fod y disgyblion i gyd wedi elwa o’r profiad o fod yn yr eglwys y diwrnod hwnnw oherwydd fe ddaeth yr holl waith trafod ac ysgrifennu  a gwblhawyd yn flaenorol yn brofiad byw.

cynulleidfa

cacen bedydd

Yr hyn a sicrhaodd fod y bedydd yn llwyddiant oedd y trefnu trylwyr ymlaen llaw, a bod y disgyblion eu hunain wedi bod yn ran allweddol o’r paratoi. Plant y Cyfnod Sylfaen a oedd yn bennaf gyfrifol am y trefniadau a dewisiwyd y rhieni a’r rhieni bedydd o blith y blynyddoedd cynnar yma a hynny drwy dynnu enw o het. Gellir hawdd ddychymygu fod hyn wedi creu cynnwrf mawr a phawb yn gwrando’n astud pan gyhoeddwyd enwau’r teulu a fyddai’n ymgynnull o gwmpas y fedyddfaen: Gwenllian Davies (Mam), Arthur Eifion Hughes (Tad), Rhiannon Kennedy, Phoebe Williams ac Ifan Webb (rhieni bedydd). Cynlluniwyd cerdyn gwahoddiad i’r ddau ddosbarth yng Nghyfnod Allweddol 2 gan bob un yn y Cyfnod Sylfaen a dyluniwyd cerdyn derbyn gan Blynyddoedd 3 a 4 a Blynyddoedd 5 a 6 a oedd yn gyfle ardderchog iddynt ymarfer eu sgiliau cyfrifiadurol.

Penderfynwyd bedyddio dol a chafodd plant y Cyfnod Sylfaen gyfle i ddewis enw iddi a’r enw y cytunwyd arno, oherwydd iddo daro deuddeg yn syth, oedd Gwen Eifion – cyfuniad perffaith o enw y Tad a’r Fam. Gwisgwyd Gwen Eifion mewn ffrog fedydd addas ac roedd sawl plentyn o’u gwirfodd wedi creu anrhegion bendigedig iddi.

llun bedyddCynhaliwyd y gwasanaeth bedydd am unarddeg y bore a cherddodd pawb i Eglwys Edern a chael croeso mawr gan Richard a Naomi. Yn gyntaf cafwyd sgwrs am rôl yr eglwys yn y gymuned ac eglurodd Naomi bwrpas ac arwyddocad y pulpud, y ddarllenfa, yr allor a phaham fod y fedyddfaen bob amser wedi’i lleoli wrth y drws. Yna cafwyd darlleniad o’r Beibl gan y Prifathro Mr. Geraint Evans sef hanes Ioan Fedyddiwr yn bedyddio Iesu Grist yn Afon Iorddonen. Roedd yr eglwys dan ei sang a phob un ohonom wedi troi i gyfeiriad y fedyddfaen i weld Gwen Eifion yn cael ei bedyddio. Roedd Richard wedi addasu’r gwasanaeth bedydd drwy ei symleiddio fel ei bod yn bosibl i’r rhieni a’r rhieni bedydd ateb y cwestiynau mewn un gair. Goleuwyd cannwyll a chafodd y gynulleidfa hefyd gyfle i ymateb. Yna yn goron ar y cyfan mwynhawyd eitem gerddorol gan aelodau o’r staff sef y ddeuawd Y Darlun  yn cael ei chanu gan Mrs. Sian Teleri Hughes a Mrs. Glesni Owen i gyfeiliant Mrs. Mererid Owen (piano) a Mrs. Helen Cookson (ffliwt). Yn olaf rhoddwyd darn o bapur lliwgar i bob plentyn a gofyn iddynt ysgrifennu gweddi o ddiolch arnynt. Clymwyd hwy at ei gilydd i greu un ddolen hir.

Yn nhraddodiad pob bedydd cafwyd cacen fedydd fendigedig yn rhodd gan Mrs. Beryl Griffiths, Pentreuchaf (Mam Mrs. Sian Teleri Hughes. Athrawes Cyfnod Sylfaen), a phan gyrhaeddwyd yn ôl i’r ysgol mwynhawyd cinio traddodiadol o gig eidion a llysiau ac yna ddarn o’r gacen.

Dyma ddiwrnod bythgofiadwy i bawb yn Ysgol Edern ac fe fyddwn yn argymell pob ysgol i gynnal seremoni bedydd yn yr eglwys neu’r capel lleol, yn hytrach nag yn yr ysgol ei hun er mwyn sicrhau fod y profiad yn real a byw. Dylid trefnu’r gwasanaeth ar ddiwedd tymor o wersi a chaniatau y disgyblion i gymryd rhan allweddol yn y trefniadau. Heb os nac oni bai y mae pawb yn Ysgol Edern, yn blant ac athrawon wedi elwa’n fawr o achlysur bedyddio Gwen Eifion oherwydd roedd yn ddiwrnod o ddysgu a chyd-wethio.

Bethan Dyer (Uwch-gymhorthydd)