Cwrs Sue Phillips Mehefin 25ain 2012 – Elizabeth Jones

Cwrs Sue Phillips Mehefin 25ain 2012 – Elizabeth Jones

Cwrs DPP Addysg Grefyddol yn cael ei gyflwyno gan un o’r arloeswyr yn y maes? Yn rhad ac am ddim? Scarcely believe! Eto ‘roedd yn wir bob gair a hynny oherwydd fy nghyfeillgarwch â gwraig o’r enw Sue Phillips.

Bu Sue yn bennaeth Addysg Grefyddol, cydlynydd ABaCh, ac yn Athrawes Sgiliau Uwch (AST)  yng Ngholeg Cymunedol Bognor Regis, Sussex, cyn ei hymddeoliad rhyw dair blynedd yn ôl. Ei harbenigedd yw ei datblygiad o ddysgu Addysg Grefyddol trwy gynnig profiadau i’r dysgwyr (experiential learning). Mae wedi teithio ar hyd a lled y wlad yn cynnal cyrsiau ar yr hyn a eilw yn ‘Theatr Ddysgu-Dysgu Trwy Brofiad. Cyhoeddwyd ei gwaith gan SfE, a chafodd ei gwadd i Awstralia dwy flynedd yn olynol i rannu ei methodoleg ag athrawon ac arbenigwyr addysgol yno. Ers ei ‘hymddeoliad’ bu’n darlithio ar fethodoleg a phedagogeg  Addysg Grefyddol i hyfforddeion TAR Uwchradd a Chynradd, a bu’n cynnal cyrsiau ar ‘Y Theatr Ddysgu’ ar hyd a lled y wlad.  A dweud y gwir, dywed ei bod yn brysurach y dyddiau hyn na bu hi erioed!

env_sp1 ( Elizabeth Jones-leusa

Yn fyr iawn, mae’r Theatr Ddysgu yn fodd i sicrhau sylw pob plentyn trwy beidio â gwneud llythrennedd yn fan cychwyn mewn gwersi Addysg Grefyddol. Mae’n galluogi plant i ddeall cymhelliant pobl hollol wahanol iddynt eu hunain (e.e., ‘Pam mynd ar bererindod?’, ‘Pam cadw at reolau bwyd?’ ayyb).  Dywed Sue ei bod yn gwadd y dysgwyr i ymchwilio i draddodiadau crefyddol gan ofyn, ‘Sut y byddwn i yn teimlo pe byddwn yn gwneud rhywbeth tebyg?’, neu o ran materion moesgol, ‘Beth fyddwn i yn ei wneud yn y sefyllfa honno?’  Dyma yw dysgu trwy brofiad (experiential learning), meddai.

Mae rhai athrawon Addysg Grefyddol Arfon, Dwyfor, Môn a Chlwyd eisoes yn gyfarwydd â gwaith Sue gan i nifer helaeth fynychu o leiaf un o’r cyrsiau a drefnais iddi yn Ysgol Dyffryn Nantlle , Penygroes, Caernarfon, yn y blynyddoedd diwethaf. Cafwyd ymateb ardderchog i’r rheiny a cheisiadau iddi ddychwelyd yn fuan, gymaint effaith ei brwdfrydedd a’i harddull unigryw.

Gwahoddwyd Sue i ddarlithio i hyfforddeion cwrs TAR Uwchradd Addysg Grefyddol ym Mhrifysgol Bangor ym Mehefin 2012. A dweud y gwir, bu’n gwneud hynny yn bur aml ers i Modlen Lynch (Darlithydd Addysg Grefyddol TAR Uwchradd Prifysgol Bangor) ei chyfarfod yn y cwrs cyntaf hwnnw a gynhaliwyd yn Nyffryn Nantlle yn 2004. Gan y byddai yn aros gyda mi, cynigiodd gynnal cwrs yn rhad ac am ddim heblaw am gyfraniad at ei chostau. Yr hyn a oedd yn ei gynnig i ni athrawon felly, oedd cwrs a fyddai yn trin a thrafod y pynciau hynny yr oeddem angen rhyw hwb i’w cyflwyno, a sut i godi safonau sgiliau llythrennedd yn ogystal ag ymateb i lefelu gwaith yn gywir.

Daeth cynnig Sue ar adeg pan oedd llawer ohonom athrawon pwnc yn teimlo dan warchae gan ofynion y cynllun cymedroli allanol, sef yr angen am bortffolio o waith plant wedi ei safoni i lefelau diwygiedig y Fframwaith Enghreifftiol ar gyfer Addysg Grefyddol.  Yn sicr mae lefelu yn rhan hanfodol o’n gwaith a byddai sicrhau dealltwriaeth ar draws y gwahanol ysgolion yn ateb y gofyn am gysondeb. Penderfynwyd y byddai Sue yn cynnwys hyn yn ei chwrs ac fe gyflwynodd sesiynau gwerthfawr a gododd hyder llawer ohonom o ran lefelu ac addysgu. Ymhellach dangosodd sut y gellid symleiddio gofynion y lefelau er mwyn i’r dysgwyr eu deall a’u perchnogi. Un syniad oedd am daflen y gellid ei gludo ym mhen blaen llyfrau gwaith:

 

Lefel 3            Rhoi y FFEITHIAU

Lefel 4            Egluro pam ac oherwydd

Lefel 5            Dweud beth yw yr EFFAITH crefydd ar unigolyn, teulu neu gymuned.

Lefel 6            Sôn am yr GWAHANOL GREDOAU o fewn UN traddodiad, a Pam.

Lefel 7            DADANSODDI beirniadol: amlinellu y dadleuon o blaid ac yn erbyn rhai daliadau/arferion crefyddol

Lefel 8            Sôn am DDATBLYGIAD CREFYDD/AU, a’u CYMHARU gyda thraddodiadau eraill..

 

Syniad arall gan Sue oedd ymdebygu’r lefelau i brawf llys. Anogir y dysgwyr i ddychmygu eu bod yn rhoi syniad neu fater ar brawf, e.e., Oes yna Dduw? Oes bywyd ar ôl marw? Yn ystod y traethawd/darn ysgrifennu rhaid gosod allan yr achos:

Lefel 3            Y Ffeithiau – Disgrifio beth ddigwyddodd gan ddefnyddio termau allweddol mewn brawddegau cryno.

Lefel 4            Pam ac oherwydd – Mewn paragraff newydd, egluro pam y digwyddodd pethau. Cychwyn gyda brawddeg pwnc. Dylai’r brawddegau gynnwys geiriau cysylltu, atalnodau a marciau siarad, os yn briodol.

Lefel 5            Effaith  credoau ar unigolyn, teulu neu gymuned. – Disgrifio effaith y defodau, digwyddiad,cred, neu weithred) mewn paragraff newydd. Dylid manylu a defnyddio amrywiaeth o eirfa alweddol, wedi eu sillafu’n gywir. Rhaid cynnwys geiriau addas i gysylltu cymalau brawddegau.

Lefel 6            Amrywiaeth credu ymysg pobl o fwn un traddodiad – Rhoi gwahanol resymau pam mae pobl yn credu pethau gwahanol, a’u cred am y digwyddiadau. Dylid cysyllu paragraffau gyda geirfa fel ‘sut bynnag’, ‘felly’, ‘o ganlyniad’, ac yn y blaen.

Lefel 7           Dadansoddiad beirniadol Amlinellu y dadleuon o blaid ac yn erbyn y credoau gan roi esiamplau a thystiolaeth. Yn y pen draw, dod i gasgliad a rhoi rhesymau am yr hyn a benderfynwyd/ddatganwyd. Dylai’r paragraffau ar y lefel hon fod yn llawn geirfa chymhleth o safon, wedi ei sillafu’n gywir.

Os y gwneud hyn mewn brawddegau gan ddefnyddio termau allweddol, paragraffau, a geiriau cyswllt priodol,  byddai yn bosibl hyrwyddo datblygu meddwl, rhesymu ac ysgrifennu clir, yn ogystal â gwella llythrennedd, a datblygu meddwl beirniadol.

Symudwyd ymlaen i sôn am strategaethau i ddatblygu llythrennedd a gwaith llafar CA3. Roedd Sue yn argymell defnyddio’r lefelau syml gyda diagram o ‘lindysyn’ er mwyn casglu pob math o wybodaeth, gan ychwanegu segmentau yn ôl yr angen. Y mwyaf sydd yna o ffeithiau/dyfyniadau ayyb, yr hwyaf fyddai’r lindysyn. Fe fyddai’r diagram wrth law wedyn pan fyddai angen cyfeirio at rywbeth mewn tasgau llafar neu waith ysgrifenedig. Roedd y syniad yma yn un poblogaidd iawn ymysg yr athrawon ar y cwrs, ac yn ddefnyddiol i roi trefn ar waith ysgrifennu, i gynllunio mewn arholiadau ac, ymhellach ymlaen, i wella perfformiad yn CA4.

Dull arall poblogaidd oedd ganddi oedd y ‘gwnhingen ddarllen’, pryd byddai dysgwyr yn llenwi diagram o gwnhingen gan flaenoriaethu gwybodaeth ac ymchwil o erthyglau a’r Wê. Y syniad yw cychwyn trwy osod y rhesymau o blaid ac yn erbyn yn y ddwy glust; y cwestiwn yn y wyneb ynghyd â’r ffeithiau ac unrhyw benawdau papur newydd/ymchwil o’r Wê; a rhoi’r casgliad yn y cynffon. O’i phrofiad yn y dosbarth, dywedodd Sue for dysgwyr CA3 yn hoff iawn o’r strategaeth ddysgu yma, a’i fod yn fodd i godi safonau llythrennedd.

Gan fod amryw ar y cwrs ddim yn gwybod am y Theatr Ddysgu, aeth Sue drwy’r model dysgu 5 cam sy’n gynhenid iddi, sef

1.   Gweld

2.   Gwneud

3.   Profi

4.   Trafod

5.   Ysgrifennu

Mae’r model yma yn ysgogi dysgwyr o bob oed a gallu, meddai, yn enwedig yn y camau ‘profiad’ 1-3 ble nad yw llythrennedd yn ‘rhwystro’r’ dysgu. Datblygir sgiliau cofio, dealltwriaeth a dadansoddi mewn gwersi diddorol, cyfannol ac affeithiol trwy ddefnyddio arteffactau, cerddoriaeth, straeon a’r dychymyg. Datblygir hyder mewn darllen ac ysgrifennu yng nghamau 4-5 trwy adeiladu ar yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth a gafwyd yng nghamau 1-3. Gall y dysgwyr wedyn anelu at ysgrifennu’n fwy treiddgar wrth gyfeirio at nifer o ddulliau gwella ysgrifennu (e.e., ‘y lindysyn’ a’r ‘gwnhingen ddarllen’) ac asesu ar gyfer dysgu.

I ddiweddu’r cwrs trodd Sue at Islam ac Islamophobia gyda’r pwyslais ar faterion neilltuol sy’n codi wrth ddysgu am Islam, a herio stereoteipiau. Yn ôl Sue mae tri maes sydd yn achosi trafodaeth a rhagfarn, ac sydd yn bodoli oherwydd diffyg gwybodaeth:

  • Eithafiaeth
  • Merched
  • Jihad

Nid materion hawdd, du a gwyn mohonynt, meddai Sue, gan iddynt godi dadleuon oddi fewn i’r gymuned Islamaidd ei hun. Yr hyn sydd angen i ni athrawon Addysg Grefyddol ei ystyried yw i fod yn hollol glir am ein nodau dysgu ac addysgu plant fel

  • eu bod ddim yn trin disgyblion ac aelodau y gymdeithas yn annheg
  • eu bod ddim yn ystyried fod pob aelod o grŵp yn credu’r un peth
  • eu bod yn datblygu goddefgarwch trwy barchu a chydnabod hawliau dynol fel rhyddid meddwl a chrefydd, ond eto’i gyd yn deall y ffiniau goddefgarwch sydd angen eu gosod pan anwybyddir yr hawliau dynol hynny

Y dulliau a ddefnyddia Sue yw cyfuniad o resymu ac emosiwn. Mae rhesymu yn golygu edrych ar y ffeithiau a’r wybodaeth sydd ei angen i chwalu rhagfarn, tra bod emosiwn yn deillio o weithgareddau sydd yn galluogi’r dysgwyr i ofyn cwestiynau fel, ‘Beth petawn i yn y sefyllfa honno?’, ‘Beth fyddwn ni yn ei wneud?’.

Gyda chyfeiriadau at yr uchod, cafwyd ymarfer niwtral i gyflwyno gweddi Islamaidd, a chanllawiau cryno ar gyfer defnyddio ‘dysgu trwy brofiad’ i ddysgu am y mosg, y Qur’an a’r Hajj. Soniodd Sue hefyd am ddull a alwyd yn ‘amlen coll.’ Mewn gwers ar oddefgarwch, rhoddwyd ffeithiau mewn amlenni ac fe wahoddwyd y sawl a agorai’r amlen i ymateb, e.e.,
1.    YN YR AMLEN:  ‘Cred 6% o Fwslimiaid fod y bomio a ddigwyddodd yn Llundain ar 7/7 yn gywir
YMATEB y disgybl (delfrydol): Golyga hynny fod 94% o Fwslimiaid ddim yn cytuno ag o.

2.    YN YR AMLEN: Mae 2% o Fwslimiaid yn credu fod Al Quaeda yn gywir yn beth maent yn ei wneud

YMATEB y disgybl (delfrydol):   Mae hynny yn golygu fod 98% o Fwslimiad ddim yn cytuno felly.

Gydag ymarferion cyffelyb gall y dysgwyr ddod i sylweddoli a chydnabod eu rhagfarnau eu hunain, ac efallai myfyrio ar sut y maent wedi ‘dysgu’/’magu’ rheiny, e.e., rhieni, y cyfryngau, a chyfoedion). ‘Dysgu goddefgarwch’ oedd enw Sue ar y gwersi hyn.

Death y sesiwn hwn â’r cwrs i ben. Rhedodd rhwng 9.30 y.b. tan 4.00 y.p., a chafwyd defnydd o bob eiliad. Yn ôl yr holiaduron, yr oedd yr athrawon wedi cael budd mawr ac yn gwerthfawrogi’r holl adnoddau a gawsant am ddim. Daeth pawb â chinio gyda hwy (pam lai ynte? Byddai hynny yn lleihau costau unrhyw gwrs gredaf i) a cawsant bwdin a thê neu goffi gratis. Gofynnwyd am £5 at gostau Sue a thalodd y mwyafrif hwnnw yn ddi-rwgnach. Efallai mai dyma yw’r ffordd ymlaen yn sgil y pwyslais ar sgiliau. Efallai y bydd rhyw athro/athrawes yn rhywle yn cael syniad da a chyflwnwr penigamp (fel y caswom ni) ac yn trefnu ar ei liwt ei hun i gael DPP pynciol.

Mae Sue yn darlithio eleni eto yn y Brifysgol ym Mangor a thra bydd yna hyfforddeion cwrs TAR Uwchradd Addysg Grefyddol, mae’n debyg y bydd yn parhau i deithio i Ogledd Cymru i rannu ei harbenigedd.

 

Gallwch gysylltu â Sue Phillips trwy wefan y Theatr Ddysgu -  www. theatreoflearning.org

NEU

Y grŵp cefnogol ar Facebook – theatreoflearning@hotmail.co.uk